Rhybudd Cynnwys Sensitif

Gall rhai o’r pynciau a drafodir yn y cwrs hwn fod yn heriol i feddwl amdanynt, a gallant deimlo’n arbennig o sensitif a phersonol i rai.

Mae’r modiwlau ar hanes a gwrthsemitiaeth yn cynnwys cyfeiriadau at ragfarn, casineb, gweithredoedd o erledigaeth a mudo gorfodol a allai fod yn peri gofid i rai unigolion, yn enwedig os ydynt hwy neu eu teulu wedi cael profiadau tebyg.

Mae eich lles yn bwysig. Os ydych chi’n pryderu am unrhyw reswm, siaradwch â’ch athro neu arweinydd y cwrs.