Dyddiau Arbennig Eraill
Yn yr 20fed ganrif, mae nifer o ychwanegiadau wedi bod i'r calendr Iddewig yn nodi digwyddiadau o hanes diweddar ac yn adlewyrchu newidiadau yn y gymuned Iddewig:
Mae Yom HaShoahHolocaust memorial day (Diwrnod Coffa’r Holocost) yn cofio’r chwe miliwn o Iddewon a fu farw yn yr hil-laddiad targedig ar bobl Iddewig yn yr Ail Ryfel Byd gan y Natsïaid a’u cydweithwyr. Mae hefyd yn anrhydeddu arwriaeth ac aberth y gwrthsafiad Iddewig. Mae canhwyllau’n cael eu cynnau a chynhelir gwasanaethau coffa, gyda straeon unigolion yn cael eu hadrodd fel na fyddant byth yn cael eu hanghofio .
SAIN “Fy enw i yw Tamar ac roedd fy hen nain a hen daid yn oroeswyr yr Holocost. Fe wnaethon nhw ill dau dyfu i fyny yn Hwngari ac roedden nhw’n adnabod ei gilydd pan oedden nhw’n eu harddegau. Fodd bynnag, priododd fy hen nain â dyn arall.
Unwaith i’r Almaenwyr oresgyn Hwngari, cafodd ei gŵr yn ogystal â llawer o weddill ei theulu eu cludo i wersyll crynhoi yn Auschwitz a bu farw llawer. Bu’n rhaid i’m hen nain fyw yn y ghetto yn Budapest ac roedd yn cuddio am amser hir.
Yn y cyfamser, bu’n rhaid i fy hen daid wneud llafur gorfodol ac yna’n ddiweddarach daeth yn was di-dâl i swyddog Almaenig. Unwaith i’r rhyfel ddod i ben, dychwelodd fy hen daid i Hwngari a daethant o hyd i’w gilydd – gan briodi a chael fy nhaid yn y blynyddoedd wedyn. Yn ddiweddarach, gadawsant Hwngari fel teulu ar ôl chwyldro lle gwelasant wrthsemitiaeth yn codi unwaith eto.
Credaf ei bod yn hynod bwysig cael diwrnod bob blwyddyn i gofio’r Holocost – yn enwedig wrth i amser fynd rhagddo – er mwyn coffáu trasiedi’r chwe miliwn o Iddewon, yn ogystal â llawer, llawer o rai eraill a erlidiwyd gan y Natsïaid ac a gollodd eu bywydau.
Mae’n sicrhau bod hanes yn cael ei gofio fel na fydd byth yn cael ei ailadrodd. Mae’n ein cadw mewn cysylltiad â’n hynafiaid Iddewig ac yn cofio pob dioddefwr fel unigolyn, fel nad oes unrhyw un a aeth trwy erchyllterau’r Holocost yn cael ei anghofio na’i gymysgu’n fàs anhysbys o bobl.”
Yom Ha’Zikaron (Diwrnod Coffa i’r Milwyr a Syrthiodd yn Rhyfeloedd Israel a Dioddefwyr Terfysgaeth) yw diwrnod coffa swyddogol Israel sy’n ymroddedig i’w milwyr a syrthiodd a dioddefwyr sifil terfysgaeth . Mae Yom HaZikaron yn digwydd ychydig cyn Diwrnod Annibyniaeth (Yom Ha’Atzmaut) i gydnabod y nifer sydd wedi marw yn ymladd dros wladwriaeth Iddewig a’i hamddiffyn byth ers hynny.
![]() | Yn debyg i sut mae pobl yn defnyddio pabi coch yn y DU i nodi Sul y Cofio, mae Israeliaid yn defnyddio blodyn gwyllt o'r enw 'Gwaed y Macabeaid' ar Yom Ha'Zikaron. |
Yom Ha’Atzmaut (Diwrnod Annibyniaeth Israel) – yn nodi pen-blwydd dod yn wladwriaeth Iddewig annibynnol i Israel ym 1948. Mae’r diwrnod yn cael ei nodi gan seremonïau a dathliadau swyddogol ac answyddogol.
Ledled Israel, mae seirenau cyrch awyr yn seinio am 10:00AM i nodi eiliad ddwy funud o dawelwch cenedlaethol lle mae’r holl draffig yn dod i stop, mae pobl yn dod allan o’u ceir ac yn arsylwi’n dawel ar yr achlysur mewn myfyrdod difrifol.
Diwrnod i Nodi Alltudio Iddewon o’r Gwledydd Arabaidd ac Iran
Ar 29 Tachwedd 1947, cyhoeddodd y Cenhedloedd Unedig gynllun rhannu, gan ddatgan y byddai Gwladwriaeth Iddewig Israel yn cael ei ffurfio. O 30 Tachwedd (y diwrnod canlynol) dechreuodd llywodraethau a dinasyddion llawer o wledydd Arabaidd ac Iran ymosod ar eu dinasyddion Iddewig , gan lansio pogroms (ymosodiadau corfforol) yn ogystal ag atafaelu eu heiddo a’u harian .
Roedd Iddewon wedi byw yn y gwledydd Arabaidd ac Iran am filoedd o flynyddoedd , ond yn ystod y cyfnod hwn, cafodd llawer o Iddewon eu harestio, eu harteithio, eu taflu allan neu eu llofruddio. Mae’r 30ain o Dachwedd bellach yn ddiwrnod cenedlaethol blynyddol o goffáu yn Israel am yr 850,000 o ffoaduriaid Iddewig a orfodwyd i adael gwledydd Arabaidd ac Iran yn yr 20fed ganrif.
Mae Sigd yn ŵyl sy’n tarddu o gymuned Beta Israel o Iddewon Ethiopia (y mae’r rhan fwyaf ohonynt bellach yn byw yn Israel). Yn debyg i sut mae Shavuot yn dechrau 50 diwrnod ar ôl Pesach (Y Pasg), mae Sigd yn cael ei ddathlu ar y 50fed diwrnod ar ôl Yom Kippur ac mae’n ymwneud â derbyn y TorahThe Jewish holy book (bible). a hiraethu i ddychwelyd i Israel .
Mae traddodiad Beta Israel yn credu mai dyma’r dyddiad y datguddiwyd Duw i Moses gyntaf. Mae Sigd yn ŵyl genedlaethol yn Israel ac mae’n gyfle i addysgu am draddodiadau unigryw cymuned Beta Israel, eu hanes a’u diwylliant.
I GAEL GWYBODAETH
Beth yw’r ffyrdd traddodiadol y mae Iddewon yn cofio ac yn parchu pobl sydd wedi marw? A yw arferion galaru’r meirw ar ddiwrnodau coffa cyhoeddus yr un fath â phethau a wneir gan unigolion sy’n galaru am golli perthynas agos?
MEDDWL BEIRNIADOL
1. A yw’r byd wedi dysgu gwers o’r hyn a ddigwyddodd i Iddewon a grwpiau lleiafrifol eraill yn ystod yr Ail Ryfel Byd neu a ydych chi’n credu y gallai rhywbeth tebyg ddigwydd eto ?
2. Pam ydych chi’n meddwl i Wladwriaeth Israel gael ei chreu ym 1948 , yn fuan ar ôl yr Ail Ryfel Byd?
OEDDECH CHI'N GWYBOD
Mae dwy ran o dair (67%) o Iddewon Prydain yn nodi o leiaf un o’r diwrnodau coffa hyn . (Arolwg JPR 2024).
GWIRIWCH EICH GWYBODAETH
1. Pa gymuned Iddewig sy’n dathlu Sigd ?
2. Ar ba ddiwrnod mae seiren yn gwneud i Israel gyfan ddod i stop am ddau funud?
3. Beth mae Yom Ha’Atzmaut yn ei ddathlu?
