Disgyblion yn ymarfer corff yn Ysgol Rydd yr Iddewon. Trwy garedigrwydd Archifau Metropolitan Llundain.
Dros amser, tyfodd y gymuned Iddewig. Sefydlwyd sefydliadau newydd , yn darparu addysg, newyddion a chefnogaeth i Iddewon ledled y wlad.
Ym 1822, agorodd Ysgol Rydd yr Iddewon ei drysau yn Aldgate, Llundain, gyda’r prif nod o droi’r tramorwyr hyn yn ddynion a menywod o Loegr. Ni chaniatawyd i’r plant siarad Iddew-Almaeneg (eu mamiaith) – dim ond Saesneg. Symudodd yr ysgol hon yn ddiweddarach i ogledd-orllewin Llundain, ac mae bellach yn ysgol Iddewig fwyaf Ewrop.
Ym 1841, sefydlwyd papur newydd y Jewish Chronicle , sy’n dal i gael ei ddarllen yn eang gan y gymuned Iddewig heddiw. Er mwyn helpu aelodau tlotach y gymuned Iddewig, yn enwedig yn Llundain lle’r oedd mewnfudwyr yn cyrraedd mewn niferoedd mawr, creodd y gymuned sefydliadau lles fel Bwrdd Gwarcheidwaid yr Iddewon i ddarparu bwyd a chymorth i’r rhai oedd ei angen.
Roedd y gymuned Iddewig yng nghanol y 19eg ganrif yn dal yn gymharol fach: tua 30–35,000 o bobl. Dechreuodd ledaenu o Lundain i weddill y Deyrnas Unedig a sefydlwyd cymunedau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon .
I GAEL GWYBODAETH
A oes unrhyw Iddewon Prydeinig yn dal i siarad Iddew-Almaeneg heddiw fel eu mamiaith (iaith gyntaf)?
MEDDWL BEIRNIADOL
Os oeddech chi’n fewnfudwr newydd, meddyliwch am 5 math o gefnogaeth rydych chi ei eisiau neu ei hangen fwyaf gan eich cymuned leol newydd.
Allwch chi roi’r 5 peth hyn yn nhrefn eu pwysigrwydd ?
GWIRIWCH EICH GWYBODAETH
1. Beth oedd Ysgol Rydd yr Iddewon ei eisiau i’w disgyblion?
2. Beth yw’r Cronicl Iddewig ?
3. Sut roedd y gymuned Iddewig yn cefnogi ei haelodau tlawd ?